01970 612 444
[email protected]
Mae Gwesty'r Marine, sydd wedi'i lleoli ar bromenâd hyfryd Aberystwyth, wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, a bellach rydym yn croesawu'r drydedd genhedlaeth i redeg y gwesty! Rydym yn ffodus ein bod wedi ein lleoli yn ddigon agos i ganol y dref ond y tu hwnt i firi’r dref.
Ni fyddai ymweliad ag Aberystwyth yn gyflawn heb ymweliad â Gwesty'r Marine. Mae'n westy eiconig sydd wedi cynnig llety i genedlaethau o fyfyrwyr a'u rhieni, twristiaid, teithwyr busnes, cynadleddau, priodasau a phartïon - pe bai'r waliau yn gallu siarad...! Felly pan fyddwch chi'n ymweld ag Aberystwyth - cofiwch ddod i aros gyda ni am noson fythgofiadwy a golygfa unigryw o'r Pier a'r Prom wrth i'r haul fachlud dros Fae Ceredigion. Os nad ydych chi'n aros gyda ni, dewch draw i gael ein Carferi Sul heb ei ail neu galwch am baned neu bryd o fwyd cyn i chi fynd i 'gicio'r bar' ar ben y Prom.